Bydd y modiwl lefel meistr ar-lein hwn yn edrych ar egwyddorion maethiad da byw mewn cyd-destun eang. Mae’n cynnwys gwerthuso porthiant yn ogystal ag egwyddorion metaboledd a gofynion maethol yr anifail. Byddwn yn archwilio rôl mwynau a fitaminau mewn maethiad da byw. Byddwn hefyd yn edrych ar yr ymchwil diweddaraf yn y meysydd hyn. Y nod yw gallu cymhwyso'r wybodaeth hon wrth baratoi dewisiadau gorau ar gyfer bwydo’r stoc.
Cynnwys y Modiwl:
- Ffisioleg treuliad gymharol
- Hanfodion metaboledd egni
- Biocemeg asid amino a metaboledd
- Rôl a swyddogaeth mwynau a fitaminau
- Dadansoddi a gwerthuso dietegol
- Paratoi a gwerthuso mathau gwahanol a faint o borthiant (rations) sy’n cael ei baratoi i’r anifail
- Paratoi arbrofion maethiad anifeiliaid
- Treuliad maetholion a metaboledd
- Modiwleiddio poblogaethau microbaidd alimentaidd a’r ecoleg
- Rhyngweithiadau planhigion-microb
- Maethiad ac addasu nodweddion cig a llaeth
- Lleihau effeithiau amgylcheddol drwy faethiad
Canlyniadau Dysgu:
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylai myfyrwyr allu:
- Trafod egwyddorion metaboledd egni a maetholion mewn anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes a gwerthuso canlyniadau gormodedd neu ddiffyg maetholion allweddol.
- Trafod profion labordy allweddol ac anifeiliaid sy’n cael eu defnyddio wrth werthuso gwerth y porthiant sy’n cael ei fwydo i’r anifail.
- Llunio rhestr fwydo (rations) ar gyfer gwahanol gategorïau o anifeiliaid.
- Trafod a gwerthuso'n feirniadol y materion cyfredol mewn maethiad da byw a'r ymchwil sy'n ceisio ymateb i 'r rhain.
- Trafod ecoleg y perfedd a'r dulliau sy’n cael eu defnyddio i addasu hyn.
- Gwerthuso'n feirniadol y dulliau sy’n cael eu defnyddio i addasu nodweddion cynhyrchion anifeiliaid.
- Mae'r modiwl hwn ar Lefel 7 Fframwaith Credydau a Chymwysterau
Mae'r Darparwyr Hyfforddiant canlynol ar gael i gyflwyno'r cwrs hwn:
Yn dechrau bob mis Ionawr am 13 wythnos.