Cyflwyniad 

Mae Sgôr Cyflwr y Corff yn ffordd effeithiol o fonitro statws iechyd a ffrwythlondeb y fuches gyfan. Dydy hi erioed wedi bod yn bwysicach i daro'r cydbwysedd iawn rhwng: 
Bwydo Economaidd, Cynhyrchu Llaeth, Lles Anifeiliaid a Ffrwythlondeb y Fuches. 
Mae nodi a chynnal Sgôr Cyflwr y Corff yn gywir yn offeryn pwysig sy'n helpu i reoli cyflwr y fuwch. Bydd hyn yn arwain at fuwch iach, buwch effeithlon gan leihau’r anhwylderau metabolaidd. Mae cynnal effeithlonrwydd metaboledd y fuwch yn lleihau nwyon tŷ gwydr o'r fuwch hefyd. 

Trosolwg cryno

Nod y cwrs wyneb yn wyneb hwn fydd yn cael ei gynnal mewn diwrnod ydy eich dysgu sut a phryd i Sgorio Cyflwr Corff buchod yn effeithiol. Mae sgôr Cyflwr y Corff yn arbennig o ddefnyddiol fel dull i reoli buchod sych a rheoli anhwylderau metabolaidd ym mhob cam o laethiad (lactation) 

Mwy o Fanylion 

Nod y cwrs 1 diwrnod wyneb yn wyneb hwn ydy eich dysgu sut a phryd i Sgorio Cyflwr y Corff yn effeithiol. Mae sgorio rheolaidd yn monitro newid yn y fuwch unigol ac yn y fuches gyfan. Mae hyn yn helpu i gynnal cyflwr corff y fuches o fewn y terfynau sgôr gorau. Mae sgorio rheolaidd yn nodi pryd y bydd y fuches a'r fuwch unigol naill ai dros bwysau neu o dan bwysau mewn da bryd. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r ffermwr i roi cynllun ar waith i wella’r broblem.  Mae'r system yn caniatáu ymyrraeth mewn da bryd pan fo angen. 

Mae'r cwrs yn ymdrin â chynllun manwl a strategaethau sut i fynd ati i adnabod anatomeg y fuwch. Bydd hyn yn caniatáu i chi gael y sgôr gywir. Gyda'r system sgorio, rydych chi'n gweithio gan ddefnyddio camau cynnydd fesul 0.25 i ganiatáu cywirdeb. 


Byddwch yn derbyn tystysgrif ar ôl cwblhau'r cwrs. 

Beth sy’n cael ei gynnwys ar y cwrs? 

Bydd ein cwrs Sgôr Cyflwr y Corff yn ymdrin â’r wybodaeth ganlynol:

  • Pwysigrwydd Cyflwr y Corff
  • Paratoi rwtȋn da
  • Pryd i wneud Sgôr Cyflwr y Corff
  • Cadw Cofnodion
  • Bioddiogelwch
  • Cysondeb yn y dechneg ydy'r allwedd i Sgorio Cyflwr Corff da

Mae'r system Sgorio yn caniatáu i ni gadw rheolaeth gyson ar ein buches er mwyn osgoi unrhyw Anhwylderau Metabolaidd ac unrhyw Anhwylderau sy'n gysylltiedig â Chyflwr Corff gwael p'un ai ydy’r anifail dros bwysau neu o dan bwysau.

Embryonics Ltd

Enw cyswllt:
Stella Rutter


Rhif Ffôn:
01606 854411


Cyfeiriad ebost:
courses@embryonicsltd.co.uk


Cyfeiriad gwefan:
www.embryonicsltd.co.uk


Cyfeiriad post:
Mere House Farm, Weaverham, Northwich, CW8 3PY


Ardal:
Cymru gyfan

I weld y cyrsiau ar BOSS

Ansicr beth yw BOSS? [Ffeindiwch allan mwy]


Sgiliau a Hyfforddiant Cysylltiedig

Cynllunio a Datblygu Busnes
Noder: bydd hyd y cwrs yn dibynnu ar y darparwr. Rhoddir
Cwympo a Phrosesu Coed dros 380mm
Cwrs hyfforddiant dwys dros 3 diwrnod gydag asesiad annibynnol a
Arwain a Rheoli
Cwrs hyfforddiant undydd a rhoddir tystysgrif presenoldeb ar ôl