17 Hydref 2024

Mae Cyswllt Ffermio yn edrych ymlaen at ail-agor y ffenestr ymgeisio i ragor o ddiadelloedd yng Nghymru ymuno â Rhaglen Geneteg Defaid Cymru. Mae Rhaglen Geneteg Defaid Cymru (WSGP) ar hyn o bryd yn cefnogi ffermwyr defaid Cymru i gofnodi a gwella perfformiad eu diadelloedd trwy ddefnyddio pŵer geneteg.

Mae Rhaglen Geneteg Defaid Cymru yn cynnig cymorth technegol ac ariannol, arweiniad a chyngor i ffermwyr defaid yng Nghymru i gryfhau perfformiad eu diadell, gwella cynhyrchiant a chynyddu proffidioldeb drwy gofnodi perfformiad a gwella geneteg. Mae’r rhaglen yn cael ei chynnal fel rhan o raglen ehangach Cyswllt Ffermio, a fydd yn rhedeg tan 31 Mawrth 2026.

Drwy weithio’n agos gydag arbenigwyr geneteg fyd-enwog, Innovis, a AHDB-Signet, mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi ffermwyr i gofnodi perfformiad eu diadelloedd a defnyddio gwerthoedd bridio tybiedig (EBV) i’w llawn botensial i wella perfformiad eu diadell.

Mae’r rhaglen wedi’i rhannu’n ddwy haen, Haen 1 a Haen 2. Yn ogystal â chymorth wedi’i dargedu ar gyfer bridiau defaid mynydd ac ucheldir yn Haen 1, trwy gynnwys Haen 2, mae’r rhaglen hefyd yn cynnig cymorth i fridiau mamol penodol cymwys sydd wedi’i gyfyngu i: Defaid Lleyn, Romney, Charmoise Hill ac Wyneblas Caerlŷr.

Bydd ceisiadau ar gyfer y ddwy haen ar agor i ddiadelloedd sy'n cofnodi ar hyn o bryd yn ogystal â diadelloedd sy'n newydd i gofnodi perfformiad, nad ydynt yn rhan o'r rhaglen ar hyn o bryd ac sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd.

Trwy gymryd rhan, bydd ffermwyr yn dysgu mwy am berfformiad eu diadell eu hunain, a sut y gallant wneud cynnydd sylweddol trwy ddefnyddio gwerthoedd bridio tybiedig, a defnyddio'r data y maent yn ei gasglu i wneud penderfyniadau gwybodus ar gyfer eu busnes. Bydd ganddynt fynediad at arbenigwyr a fydd yn eu harwain drwy'r broses, ac yn eu helpu i osod nodau gyda'r nod yn y pen draw o gynyddu effeithlonrwydd a phroffidioldeb eu diadell.

Mae’r opsiwn o gofnodi â llaw neu ddefnyddio DNA ar gael, gyda ffermwyr ond yn wynebu cost i samplu meinwe'r ŵyn os ydynt yn dewis y llwybr DNA (yn cael ei ariannu 50% gan Cyswllt Ffermio, a bydd angen i’r ffermwr dalu 50% arall y gost), tra bod holl elfennau eraill y rhaglen yn cael eu hariannu’n llawn gan Cyswllt Ffermio.

Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth i berfformiad eich diadell!

Mae lleoedd i ymuno â’r rhaglen yn gyfyngedig, ac mae ceisiadau’n cau am hanner dydd ar 28 Hydref 2024. Gwasgwch yma am ragor o wybodaeth ac i wneud cais.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ymweld ag Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio: Arddangosiad o Ragoriaeth Amaethyddol
14 Hydref 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi cwblhau cyfres
Mae fferm laeth yng Nghymru yn tyfu blodau’r haul gyda india-corn fel cnwd cyfatebol i leihau ei chostau protein a brynir i mewn.
25 Medi 2024 Mae Dyfrig ac Elin Griffiths a'u mab, Llyr, yn
Y ffermwr defaid Richard Wilding yn croesawu dysgu gydol oes ar gyfer dyfodol mwy effeithlon
23 Medi 2024 Richard Wilding, ffermwr defaid ucheldir o Lanandras