14 Hydref 2024

Mae Cyswllt Ffermio wedi cwblhau cyfres lwyddiannus o 15 o deithiau o amgylch y fferm trwy gydol mis Medi, gan arddangos arferion rheoli tir yn gynaliadwy (SLM) trwy dreialon ac arddangosiadau ar y fferm.

Denodd y digwyddiadau hyn, a gynhaliwyd ledled Cymru, dros 1,030 o fynychwyr a chafwyd gwell darlun o’r treialon gan 66 o siaradwyr arbenigol.

Roedd y teithiau o amgylch y fferm yn gyfle unigryw i ffermwyr ddysgu oddi wrth eu cyfoedion a dysgu gan ystod eang o 66 o siaradwyr gwahanol. Cynhaliwyd digwyddiadau ar draws pob sector gan gynnwys garddwriaeth, cig coch, llaeth, âr, a ffermio cymysg, gyda ffocws cryf ar fanteision arferion cynaliadwy a thechnolegau arloesol.

Cynhaliodd pymtheg fferm, a oedd yn cymryd rhan yn rhwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, y digwyddiadau. Rhannodd y siaradwyr, a oedd yn gweithio'n agos gyda'r ffermydd hyn ar eu prosiectau unigol, wybodaeth a phrofiadau gwerthfawr.
Yn ogystal, gwahoddwyd sefydliadau amaethyddol megis Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, Arwain DGC a Plantlife i ymuno â’r digwyddiadau i arddangos eu prosiectau a thrafod gyda ffermwyr.

Nododd Ceinwen Parry o Tir Dewi gynnydd yn nifer yr ymholiadau yn dilyn y digwyddiadau, gan amlygu eu heffaith gadarnhaol ar ymgysylltiad â ffermwyr, gan ddangos sut y gall y digwyddiadau hyn gael effaith barhaol ar ffermwyr, ymhell ar ôl i’r digwyddiadau ddod i ben.

Mynegodd Siwan Howatson, pennaeth technegol Cyswllt Ffermio, ei diolch i'r ffermwyr a gymerodd ran.

“I ffermwyr Ein Ffermydd, rydym yn hynod ddiolchgar am eich holl waith yn paratoi ar gyfer y digwyddiadau hyn ac am eich ymrwymiad i’r treialon ar y fferm hyd yma.”

Eglurodd Siwan mai nod pob digwyddiad oedd rhannu gwybodaeth ymhlith ffermwyr.

“Diolch hefyd i’r holl fynychwyr, rydym yn gobeithio eich bod wedi dysgu rhywbeth newydd neu wedi cael syniadau newydd i’w datblygu ar eich ffermydd eich hun.”
Mynegodd y mynychwyr frwdfrydedd dros natur addysgiadol y digwyddiadau, gyda llawer yn nodi bod y cyfle i rwydweithio ag unigolion o’r un anian o fudd sylweddol. Rhannodd un ffermwr, a fynychodd y digwyddiad ar fferm Cwmcowddu y bydd o bosibl yn rhoi newidiadau ar waith ar ei fferm yn dilyn y wybodaeth a rannwyd yn ystod y digwyddiad.

“Efallai y byddaf yn newid ein system borfa, ac yn ailystyried fy nefnydd o dail? Diwrnod da, mae Cwmcoddu yn fferm arbennig.”

Drwy gydol yr holl ddigwyddiadau, pwysleisiodd staff Cyswllt Ffermio fod yr holl wasanaethau yr oedd y ffermwyr a oedd yn cynnal y digwyddiadau wedi’u defnyddio hefyd ar gael i bob ffermwr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.

Ar hyn o bryd, mae gan Cyswllt Ffermio ystod o gyfleoedd yn ymwneud â menter ar y cyd ar gael i unigolion sydd am fentro i redeg eu busnes coedwigaeth neu fferm eu hunain.

I gael rhestr o gyfleoedd, gan gynnwys lleoliad, tir, da byw a math o gytundeb, cysylltwch â Cyswllt Ffermio ar 03456 000 813.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ydych chi erioed wedi meddwl sut i wella perfformiad eich diadell? Sut gallai’r 2 cilogram o bwysau ychwanegol hwnnw fesul oen effeithio ar eich perfformiad ariannol? Meddyliwch am eneteg.
17 Hydref 2024 Mae Cyswllt Ffermio yn edrych ymlaen at ail-agor y
Mae fferm laeth yng Nghymru yn tyfu blodau’r haul gyda india-corn fel cnwd cyfatebol i leihau ei chostau protein a brynir i mewn.
25 Medi 2024 Mae Dyfrig ac Elin Griffiths a'u mab, Llyr, yn
Y ffermwr defaid Richard Wilding yn croesawu dysgu gydol oes ar gyfer dyfodol mwy effeithlon
23 Medi 2024 Richard Wilding, ffermwr defaid ucheldir o Lanandras