Pynciau Busnes
Busnes a pherfformiad y busnes |
Adolygu neu werthuso perfformiad eich busnes. Trafod eich cynllun busnes. Dechrau’r broses feincnodi. Adolygu gorbenion |
Marchnata a Chyfryngau cymdeithasol |
Marchnata eich busnes cyfredol. Deall eich cymysgedd farchnata. Dynodi a chyrraedd y gynulleidfa/cwsmeriaid yr ydych yn eu targedu. Cyngor ar frandio a marchnata ar gyfryngau cymdeithasol |
Arallgyfeirio |
Ble i ddechrau ar brosiect arallgyfeirio. Trafod syniadau posibl a beth allai weithio i’ch busnes chi. |
Olyniaeth |
Trafod unrhyw faterion gyda chyfreithiwr ynglŷn ag olyniaeth gan gynnwys pynciau fel mentrau ar y cyd, cytundebau partneriaeth, tenantiaethau ewyllysiau, profi ewyllysiau a chynllunio etifeddiaeth. Cychwyn cynllunio olyniaeth i ddiogelu eich busnes. |
Cyfraith amaethyddiaeth |
Trafod unrhyw faterion gyda chyfreithiwr ynglyn â chyfraith amaethyddiaeth gan gynnwys pynciau fel anghydfodau ffiniau, llwybrau cyhoeddus, prydlesi tir, anghydfodau pori, goblygiadau prynu/gwerthu tir, materion yn ymwneud â gwerthu/prynu stoc ac ati. |
Cynllunio ariannu a chyfrifyddu |
Edrych ar eich cyfrifon busnes a ffyrdd o wella strwythur eich busnes. Cynlluniau ar gyfer prosiectau at y dyfodol - gan gynnwys llif arian. Treth fusnes |
Cynllunio a Datblygu |
Trafod problemau sydd gennych o ran y prosesau cynllunio ar gyfer adeiladau ar eich fferm fel adeiladu o’r newydd, adnewyddu a throsi, cynlluniau ynni adnewyddadwy, cyfleoedd o ran twristiaeth. |
TGCH |
Datblygwch eich sgiliau TG boed yn gefnogaeth sylfaenol ar e-byst, dogfennau neu daenlenni, galwadau fideo neu gyngor mwy penodol ar systemau penodol fel TAW ar-lein, Quickbooks, Xero, Sage, BCMS, RPW ar-lein |
Meincnodi |
Trafod sut i ddechrau meincnodi, casglu data ffisegol (canran sganio, canran magu, canran gwerthu ac ati), creu ffurflenni syml i gasglu data, mewnbynnu data mewn i systemau a thrafod y canlyniadau. |
Adnoddau dynol / Rheoli staff |
Cytundebau staff. Newid telerau ac amodau cyflogaeth e.e. lleihau oriau. Awgrymiadau iechyd, lles a diogelwch yn y gwaith. Rheoli perfformiad a chynnal cymhelliant staff a’u hymlyniad. |
Effeithlonrwydd ynni / Ynni adnewyddadwy |
Trafod dewisiadau effeithlonrwydd ynni a beth i’w ystyried wrth ystyried dewisiadau ynni adnewyddadwy ar gyfer eich fferm gan gynnwys cyflenwad trydan, ceisiadau cynllunio, dylunio a gosod. Defnydd o drydan a’i ddadansoddi (gan gynnwys cyflenwyr). Dylunio ynni adnewyddadwy gan gynnwys oddi ar y grid. |
Isadeiledd | I trafod cyfrifiad ar gyfer gofod storio slyri |
Am ragor o wybodaeth neu i archebu cymhorthfa cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol neu Ganolfan Wasanaeth Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.