Mae’r podlediad hwn yn manteisio ar weminar Cyswllt Ffermio a gafodd ei recordio’n ddiweddar. Beth am i chi achub ar y cyfle a gwrando ar y podlediad ar amser sy’n addas a chyfleus i chi. Bydd David Ball o dîm Amgylchedd AHDB yn ymuno â Sue Buckingham, Ymgynghorydd Nitrogen Atmosfferig Cynaliadwy. Mae gweithgareddau amaethyddol yn cyfrif am 93% o allyriadau amonia yng Nghymru, sy’n deillio’n bennaf o systemau da byw a rheolaeth gwrtaith. Ymunwch â ni i ddysgu mwy am raddfa ac effaith y mater a sut y gall cymhwyso dulliau rheoli penodol gyfyngu ar allyriadau amonia o bob cam lle mae colledion yn digwydd.