Yn y gyntaf mewn cyfres o benodau sy'n canolbwyntio ar reoli staff, mae cyflwynydd newydd arall i'r podlediad Rhian Price yn cael cwmni Paul Harris, sylfaenydd REAL Success, busnes ymgynghoriaeth pobl. Mae Rhian yn newyddiadurwr ac yn arbenigwraig cysylltiadau cyhoeddus amaethyddol, treuliodd 10 mlynedd yn gweithio yn Farmers Weekly – saith ohonynt fel Golygydd Da Byw cyn sefydlu ei chwmni Cysylltiadau Cyhoeddus Amaethyddol ei hun, ‘Rhian Price Media’. Mae hi bellach yn byw ar y ffin rhwng Sir Amwythig a Chymru gyda’i gŵr a’u teulu ar fferm laeth 280 o wartheg.

Bydd y bennod hon yn y gyfres yn trafod pam mae ffermwyr yn ei chael hi mor anodd recriwtio a chadw staff, a sut y gall ffermwyr ddenu a chadw’r personél gorau. Maen nhw hefyd yn ystyried beth ddylech chi ei wneud i gadw staff yn hapus ac yn llawn cymhelliant.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Rhifyn 111- Sut mae ffermwyr Cymru yn lleihau effaith carbon defaid
Bydd Janet Roden yn amlinellu’r gwaith sydd wedi’i wneud yng
Rhifyn 110 - Bridio defaid ag ôl troed carbon isel
Mae Suzanne Rowe yn Uwch Ymchwilydd gydag AgResearch yn Seland
Rhifyn 109 - Mae rheoli llyngyr yr iau yn llwyddiannus yn bwysig ar gyfer cynhyrchu defaid yn gynaliadwy
Yn y bennod fer hon byddwn eto yn ymweld â fferm Lower House