Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, ochr yn ochr â Lantra Cymru wedi creu cwrs e-ddysgu newydd. Bydd 'Plant ar Ffermydd' yn rhoi arweiniad i chi ar gadw plant yn ddiogel ar eich fferm yn ystod gwyliau’r haf sydd i ddod.
Bydd Plant ar Ffermydd, cwrs e-ddysgu newydd gan Lantra, yn rhoi arweiniad i chi ar gadw plant yn ddiogel ar eich fferm yn ystod gwyliau’r haf sydd i ddod.

Mae’r cwrs hwn, sy’n cymryd tua 45 munud i’w gwblhau, yn rhoi’r wybodaeth a’r offer i gyfranogwyr i sicrhau haf diogel a phleserus i’r teulu cyfan.

Mae’r cwrs yn ymdrin ag ystod eang o bynciau diogelwch plant ar y fferm, gan gynnwys cyfrifoldebau cyfreithiol, diogelwch cerbydau (tractorau, ATVs), atal cwympiadau, a rheoli peryglon o gwmpas offer a sylweddau niweidiol. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd creu rhestr wirio diogelwch ar y fferm.

Dywedodd Kevin Thomas Cyfarwyddwr Lantra Cymru; “Mae Lantra yn deall pwysigrwydd plant ar ffermydd teuluol ac yn cefnogi’n llwyr yr angen i’r genhedlaeth nesaf fod â diddordeb brwd yng ngwaith y fferm o ddydd i ddydd, ond rhaid gwneud hynny gan ystyried diiogelwch. Mae Lantra yn gwbl ymroddedig i ddiogelwch fferm, yn enwedig i blant, a dyna pam mae Lantra wedi gwneud y cwrs hwn am ddim i bawb ei gwblhau”.

Mae’r adnodd amserol hwn yn berffaith ar gyfer ffermwyr prysur sydd am fod yn rhagweithiol ynghylch diogelwch plant cyn gwyliau’r haf.

Mae pecyn cymorth ar ddiogelwch plant hefyd wedi'i greu i danlinellu diogelwch plant ar ffermydd.
Gall ffermydd fod yn lle peryglus i blant. Mae plant ifanc angen man chwarae diogel ar wahân i'r parthau gwaith, ac ar gyfer plant hŷn (dan 16 oed), rhaid i unrhyw ymweliad â'r gweithle gael ei gynllunio, ei oruchwylio'n agos gan oedolyn nad yw'n gweithio, a bod at ddibenion addysgol. 

Mae gan bawb ar y fferm gyfrifoldeb i ddiogelu plant bregus oherwydd eu hoedran ac anaeddfedrwydd corfforol a meddyliol.
Cerbydau a pheiriannau sy'n cyflwyno'r risg mwyaf i blant ac mae'n debyg mai dyma'r meysydd o fywyd y fferm sydd fwyaf deniadol i blant hŷn.

Dywed Meleri Jones, Cydlynydd Iechyd a Diogelwch Cyswllt Ffermio, “Mae’n bwysig cadw diogelwch mewn cof pan fo plant ar y fferm – dydych chi ddim eisiau byw’n edifar.”I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch plant ar ffermydd, ewch i wefan Cyswllt Ffermio neu i gwblhau’r modiwl e-ddysgu Plant ar Ffermydd
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwyr Sir Benfro yn mynd i'r afael â TB trwy waith tîm
07 Ebrill 2025 Mae ffermwyr ar draws Sir Benfro yn profi, hyd yn
Mentor Cyswllt Ffermio ac arweinydd Agrisgôp, Caroline Dawson, yn rhan o gyfres ddiweddaraf o Our Dream Farm ar Channel 4
03 Ebrill 2025 Dewch i weld hynt a helynt y rhai a gyrhaeddodd
Cyswllt Ffermio yn Cyflwyno 9 Cwrs Hyfforddiant Ychwanegol i Ffermwyr
02 Ebrill 2025 Mae Cyswllt Ffermio wedi ehangu ei raglen