18 Tachwedd 2024

Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr beth i’w wneud, ond, pe byddai eich plentyn yn dod adref o’r ysgol gyda llyfryn am ddim ar ddiogelwch fferm ac yn gofyn beth ydych chi’n ei wneud i’w cadw nhw’n ddiogel ar y fferm deuluol, mae’n debyg y byddech yn darllen y llyfryn a chymryd sylw! Dyna pam y bydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn estyn allan i blant a phobl ifanc yn ystod y Ffair Aeaf yn Llanelwedd eleni (25/26 Tachwedd).

Bydd y cyflwynydd adnabyddus ar S4C a llysgennad Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru Alun Elidyr, yn cadeirio digwyddiad diogelwch fferm yng nghwmni’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies yn y Ffair Aeaf. Yn siarad cyn y digwyddiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet,

“Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, sef cydweithrediad o’r holl randdeiliaid gwledig allweddol yng Nghymru, wedi rhoi diogelwch fferm ar yr agenda ar draws ein diwydiant ers ei sefydlu yn 2010.

“Mae eu hymdrechion ar y cyd yn rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch fferm ar lawr gwlad ac rwy’n falch ein bod yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith hanfodol hwn drwy raglen Cyswllt Ffermio.

“Rydw i eisiau sicrhau bod gan holl ffermwyr Cymru'r ymwybyddiaeth a’r wybodaeth i wneud ffermydd yn lleoedd mwy diogel i fyw a gweithio.

“Gyda’n gilydd, gallwn leihau nifer y trychinebau enbyd sy’n effeithio ar gymaint o deuluoedd a chymunedau bob blwyddyn, ac mae’n rhaid gwneud hynny.”

Dywed Alun Elidyr y gallai ‘Bob y Ci Defaid’, y prif gymeriad sy’n ymwybodol iawn o berygl mewn cyfres o lyfrau a fideos am ddim i blant, fod yn un o’r adnoddau mwyaf clyfar o safbwynt marchnata wrth herio ymddygiad teuluoedd fferm yng Nghymru.

Eglurodd Mr Elidyr eu bod yn plannu’r syniad o gadw’n ddiogel ar ffermydd ym meddyliau’r genhedlaeth nesaf drwy dargedu plant gydag ymgyrch ddwyieithog Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, sef ‘Diolch byth am Bob’, sydd bellach yn ei ail flwyddyn.

“Dal dychymyg pobl ifanc yw nod yr ymgyrch hon! Rydym am i blant gymryd eiliad a ‘meddwl am ddiogelwch’ o’r cychwyn cyntaf, i fod yn llysgenhadon ifanc drwy ddylanwadu ar eu teuluoedd drwy drafod diogelwch fferm.

Bydd ‘Diolch byth am Bob...eto’, sydd wedi’i anelu at blant ifanc, a ysgrifennwyd gan yr awdur adnabyddus o Gymru, Bethan Gwanas, ar gael am y tro cyntaf yn y Ffair Aeaf. Mae’r llyfryn yn llawn lluniau lliwgar a chyngor gwych gan Bob er mwyn cadw Tom a’i gyfnither fach Lia yn ddiogel ar y fferm deuluol. Gallai ymwelwyr â’r Ffair Aeaf weld cip o Bob yn unrhyw le o amgylch maes y sioe neu ar stondin Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (Neuadd Morgannwg), lle bydd yn fwy na hapus i ysgwyd pawen, rhoi copi am ddim o ‘Diolch byth am Bob...eto’ a chael tynnu ei lun.    

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru hefyd wedi trefnu helfa drysor diogelwch fferm fel rhan o’i brosiect ‘cystadleuaeth ysgolion’ blynyddol, gydag o leiaf un cliw ar stondin Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru.  


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu