BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth ar-lein ar gael i fusnesau yng Nghymru sy’n teimlo effeithiau COVID-19

Mae Busnes Cymru wedi lansio cyfres newydd o weminarau a chyrsiau digidol ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru sy’n dioddef yn sgil COVID-19.

Mae cyfres ‘Covid-19 a’ch Busnes’ yn rhoi sylw i bynciau pwysig, gan gynnwys:

  • arallgyfeirio a modelau busnes amgen
  • llif arian a chyllid
  • gweithdrefnau a pholisïau Adnoddau Dynol
  • rheoli timau a llif gwaith o bell
  • hybu cynhyrchiant
  • negodi â chyflenwyr ac yswiriant

Mae'r gweminarau yn rhedeg yn ddyddiol.

Yn ystod y gweminarau, bydd pawb yn cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn fyw o Holi ac Ateb, drwy anfon eu cwestiynau at y cyflwynwyr.

I gael mwy o wybodaeth, ac i drefnu’ch lle yn y gweminarau, ewch i dudalennau dod o hyd i ddigwyddiad Busnes Cymru

Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.