Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd i hyrwyddo'r cymorth pwysig sydd ar gael i fusnesau i'w helpu i ddelio â phwysau parhaus coronafeirws, a chynllunio ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus.
P'un a ydych am helpu eich gweithwyr i ddysgu sgiliau newydd a fydd yn fuddiol i'ch busnes neu ychwanegu talent newydd i'ch tîm, mae Llywodraeth Cymru’n cynnig llawer o raglenni drwy'r Porth Sgiliau i Fusnes a all gefnogi eich anghenion o ran sgiliau, hyfforddiant a recriwtio.
Os nad ydych yn siŵr am beth rydych chi’n chwilio, beth am gysylltu â ni?
Am ragor o wybodaeth ewch i Porth Sgiliau i Fusnes ar-lein.