BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth Recriwtio Prentisiaid

Gall recriwtio prentis eich helpu i ehangu eich gweithlu a'i sylfaen sgiliau. Mae cymorth ar gael tuag at gost yr hyfforddiant a'r asesiadau.

I helpu busnesau i recriwtio prentisiaid, rydym yn cynnig cymhellion tan 28 Chwefror 2022 (yn amodol ar argaeledd cyllideb). 

Drwy gyflogi prentis, gallwch:

  • leihau eich costau recriwtio
  • adeiladu gweithlu medrus a brwdfrydig sydd wedi'i deilwra i'ch busnes
  • ehangu eich busnes
  • llenwi unrhyw fylchau o ran sgiliau
  • diogelu eich busnes at y dyfodol
  • cynyddu cynhyrchiant

Mae busnesau o bob maint ac ym mhob sector yn gymwys.

Caiff y rhan fwyaf o'r hyfforddiant ei wneud gan y cyflogwr sy'n gweithio gyda darparwr hyfforddiant cymeradwy.

Y cyflogwr sy’n gyfrifol am dalu cyflog y prentis ac am unrhyw hyfforddiant ychwanegol. Caiff costau'r hyfforddiant eu cefnogi gan y rhaglen brentisiaethau.

Mae'n bwysig gweithio gyda darparwr hyfforddiant mor gynnar â phosibl yn y broses. Byddant yn gallu rhoi help, cymorth ac arweiniad.

Am ragor o wybodaeth ewch i Cyllid ar gael | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.