Llywodraeth Cymru yn rhoi hwb i gymorth ar gyfer talebau tanwydd a chronfa wres gyda £700,000 ychwanegol i helpu aelwydydd sy'n agored i niwed y gaeaf hwn: Cymorth ychwanegol i aelwydydd difreintiedig y gaeaf hwn | LLYW.CYMRU
Gall aelwydydd ledled Cymru sy'n wynebu cyfnod anodd ac sy'n gorfod rhagdalu am eu hynni gael cymorth pellach y gaeaf hwn, wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi £700,000 o gyllid ychwanegol ar gyfer cynllun talebau tanwydd a Chronfa Wres y Sefydliad Banc Tanwydd. Mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn adeiladu ar ymrwymiad hirsefydlog i amddiffyn pobl sy'n wynebu tlodi tanwydd, yn enwedig y rhai sy'n dibynnu ar fesuryddion rhagdalu neu heb fynediad at nwy o'r prif gyflenwad.
I gael gwybod a ydych yn gymwys i gael cymorth o dan y Cynllun Banc Tanwydd a sut i wneud cais, cysylltwch ag unrhyw un o'u partneriaid sy'n cael eu rhoi ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru: Partneriaid y Sefydliad Banc Tanwydd.
Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ledled Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda'n partneriaid i ddod â'r adnoddau a'r gefnogaeth ymarferol sydd eu hangen i addasu a llywio cost gynyddol gwneud busnes – i gyd mewn un lle: Cost Gwneud Busnes | Busnes Cymru