BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymru ar flaen y gad o fewn y DU wrth i'r Senedd wahardd plastigau untro

Cymru fydd y rhan gyntaf o'r DU i ddeddfu yn erbyn rhestr drylwyr o blastigau untro, wrth i'r Senedd gymeradwyo deddfwriaeth i wahardd gwerthu cynhyrchion tafladwy, diangen i ddefnyddwyr.

Mae'r gyfraith newydd yn gam allweddol i leihau llif gwastraff plastig niweidiol i amgylchedd Cymru, ac mae'n cael ei chyflwyno ar ôl ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill.

Gan ddod i rym yn nhymor yr hydref 2023, bydd yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol orfodi'r drosedd o gyflenwi neu gynnig cyflenwi'r eitemau sy'n cael eu taflu'n sbwriel yn aml – hyd yn oed pan fyddant yn rhad ac am ddim.

Ar hyn o bryd, Cymru yw’r trydydd gorau yn y byd o ran ailgylchu domestig, ac mae'r gyfraith newydd yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd camau uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cymru ar flaen y gad o fewn y DU wrth i'r Senedd wahardd plastigau untro | LLYW.CYMRU

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.