BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymru i arwain y chwyldro ynni gwyrdd gyda buddsoddiadau a mentrau uchelgeisiol

Wind turbines at sea and engineer

Dim amheuaeth ynghylch arbenigedd ac uchelgais Cymru yng nghynhadledd fyd-eang gwynt ar y môr.

Wrth siarad yng nghynhadledd Global Offshore Wind ym Manceinion, rhannodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg ei weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Cymru yn y chwyldro gwynt ar y môr.

Gyda'r cymysgedd cywir o arbenigedd a daearyddiaeth, mae Cymru wedi bod yn gartref i brosiectau arloesol gwynt ar y môr ers amser. Fel rhan o araith allweddol i gynulleidfa ryngwladol o’r diwydiant, addawodd Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles, adeiladu ar hyn, gan roi ffocws cryf ar fuddsoddiad strategol, cadwyni cyflenwi cadarn, a datblygu sgiliau i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa ragorol i arwain y ffordd tuag at ddyfodol ynni gwyrdd.

Bydd y gwaith hwn yn dechrau drwy ddatblygu a gwella galluogrwydd ar y môr yn y porthladdoedd sydd wedi eu lleoli’n strategol yng Nghaergybi, Mostyn, Sir Benfro a Phort Talbot, gyda phob un ohonynt eisoes wedi chwarae rhan ganolog yn llwyddiannau gwynt ar y môr Cymru.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cymru i arwain y chwyldro ynni gwyrdd gyda buddsoddiadau a mentrau uchelgeisiol | LLYW.CYMRU

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. I gael rhagor o wybodaeth ewch i Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.