BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymru yn Ailgylchu: Bydd Wych. Ailgylcha.

‘Bydd Wych. Ailgylcha.’ yw ymgyrch ailgylchu mwyaf a mwyaf uchelgeisiol Cymru. Mae’n cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050 a rhoi hwb i Gymru tuag at gyrraedd y nod o fod yn genedl ailgylchu orau’r byd.

Ein thema eleni yw “Pwer ailgylchu gwastraff bwyd” a bydd yr ymgyrch, sy'n dechrau ar 6 Chwefror 2023, yn dangos sut mae gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu i greu ynni adnewyddadwy sy’n brwydro newid hinsawdd yng Nghymru.

Ymunwch â’n Cenhadaeth Wych i gael Cymru i rif un a chreu newid cadarnhaol yn y byd o’n cwmpas trwy hyrwyddo’r ymgyrch. Gallwch lawrlwytho’r holl asedau ac adnoddau dwyieithog, sydd wedi’u dylunio i weithio ar draws sawl sianel a fformat, ynghyd â chanllawiau ar sut i’w defnyddio.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cymru yn Ailgylchu: Bydd Wych. Ailgylcha. Asedau 2023 | WRAP (wrapcymru.org.uk)

Cyfarfodydd Gweledigaeth Werdd Busnes Cymru: wyth sesiwn sy'n cynnwys siaradwyr arbenigol yn rhannu eu gwybodaeth, yn edrych ar effeithlonrwydd adnoddau ac ystyried sut allwn eich helpu chi i fynd ati i leihau eich effaith ar y newid yn yr hinsawdd. Os oes gennych chi Weledigaeth Werdd sy'n anelu at fod yn garbon Sero Net yn y dyfodol, dyma'r gyfres i chi. Gweledigaeth Werdd | Busnes Cymru (gov.wales)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.