BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymru yn symud i lefel rhybudd 2

A lefelau’r coronafeirws yn dal i fod yn isel a’r cyfraddau brechu yn parhau i fod yn well nag yn unrhyw ran arall o’r DU, bydd Prif Weinidog Cymru yn cadarnhau heddiw y bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd 2 ddydd Llun.

O ddydd Llun, Mai 17, bydd busnesau lletygarwch dan do yn cael ailagor, bydd lleoliadau adloniant dan do hefyd yn ailagor, a chaiff mwy o bobl fynd i gweithgareddau wedi’u trefnu dan do ac yn yr awyr agored.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cadarnhau y bydd teithio rhyngwladol yn ailddechrau o ddydd Llun, ond caiff mesurau diogelu ychwanegol eu rhoi ar waith ar gyfer y rheini sy’n dychwelyd o rai gwledydd er mwyn atal y coronafeirws rhag dod yn ôl i mewn i Gymru.

Mae’r newidiadau i gyfyngiadau’r coronafeirws, a ddaw i rym ddydd Llun 17 Mai, yn cynnwys y canlynol:

  • Gall lleoliadau lletygarwch dan do ailagor - gall chwe pherson o hyd at chwe aelwyd (heb gynnwys plant o dan 11 oed) archebu.
  • Gall pob llety gwyliau ailagor yn llawn.
  • Gall lleoliadau adloniant, gan gynnwys sinemâu, neuaddau bingo, alïau bowlio, canolfannau chwarae dan do, casinos, arcedau difyrion a theatrau ailagor. Gall sinemâu, theatrau, neuaddau cyngerdd a meysydd chwaraeon werthu bwyd a diod cyn belled â’i fod i’w fwyta a’i yfed wrth eistedd i wylio’r perfformiad.
  • Gall atyniadau dan do i ymwelwyr ailagor, gan gynnwys amgueddfeydd ac orielau.
  • Gall hyd at 30 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do wedi’u trefnu a hyd at 50 o bobl mewn gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu. Mae hyn yn cynnwys derbyniadau priodas a the angladd.

Os bydd yr amodau o ran iechyd y cyhoedd yn aros yn gadarnhaol, bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf yn ystyried y canlynol:

  • Newidiadau pellach o ran cwrdd â phobl mewn cartrefi preifat.
  • Cynyddu nifer y bobl a all gwrdd yn yr awyr agored a nifer y bobl a all fynd i weithgareddau a digwyddiadau wedi’u trefnu, gan gynnwys derbyniadau priodas, i 50 dan do a 100 yn yr awyr agored.
  • Caniatáu i ddigwyddiadau mwy o faint gael eu cynnal dan do ac yn yr awyr agored.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.