BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymru'n gweld y twf uchaf erioed mewn entrepreneuriaeth

Entrepreneurship

Adroddiad GEM Cymru 2023 yn datgelu'r cyfraddau entrepreneuriaeth uchaf erioed.

Mae Cymru wedi gweld y cynnydd mwyaf erioed mewn gweithgarwch entrepreneuraidd, gyda ffigurau newydd o adroddiad Monitor Entrepreneuriaeth Byd-eang (GEM) Cymru 2023 yn dangos y lefelau uchaf a gofnodwyd erioed o ran cyfraddau busnesau cyfnod cynnar.

Mae'r adroddiad yn canfod bod cyfradd Cyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar (TEA) yng Nghymru wedi cyrraedd 11.5% digynsail yn 2023, sy'n gynnydd sylweddol o'i gymharu â 7.8% yn 2022.

Mae entrepreneuriaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru wedi gweld cynnydd rhyfeddol, gyda 14.0% o bobl ifanc bellach yn cymryd rhan mewn gweithgareddau busnes cyfnod cynnar, i fyny o 2.0% yn 2002.

Mae adroddiad GEM 2023, sy'n rhoi cipolwg blynyddol ar dueddiadau entrepreneuraidd ledled y DU, hefyd yn datgelu bod 20% o oedolion o oedran gweithio nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru yn bwriadu dechrau busnes o fewn y tair blynedd nesaf, i fyny o 15.7% yn 2022.

Mae'r gyfradd TEA i fenywod, ar 9.5%, yn agos at 13.5% i ddynion. Mae'r ddau ffigur yn gynnydd o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Drwy ei gwasanaeth Busnes Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth helaeth a phwrpasol i unigolion sydd am ddechrau neu dyfu eu busnesau. Mae hyn yn cynnwys cyfoeth o adnoddau am ddim, o gyngor ymarferol ar lansio busnes i daflenni ffeithiau manwl ar wahanol agweddau ar entrepreneuriaeth. 

Am ragor o wybodaeth a chymorth i helpu i droi eich syniadau busnes yn realiti, goresgyn rhwystrau a datblygu eich busnes ymhellach, ac i siarad ag arbenigwyr a chynghorwyr y diwydiant, mae ein hadran Dechrau busnes yma i’ch helpu: Dechrau busnes | Busnes Cymru (gov.wales).

I ddarllen adroddiad llawn GEM Cymru 2023, dewiswch y ddolen ganlynol: Adroddiadau'r Monitor Entrepreneuriaeth Byd-eang 2023 | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.