BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynaliadwyedd ar gyfer Busnesau Bach – Rhaglen am Ddim

Green - eco lightbulbs

Rhaglen chwe wythnos sydd wedi’i hachredu o ran DPP ac sy’n cynnig hyfforddiant hanfodol ar gynaliadwyedd i fusnesau bach yn rhad ac am ddim yw BT Sustainability, a gyflwynir gan Small Business Britain mewn partneriaeth â BT. 

Mae’r rhaglen yn dechrau ar 9 Medi 2024 a bydd yn helpu entrepreneuriaid i ddeall y cyfleoedd anhygoel y gall cynaliadwyedd eu cynnig a gwneud y gorau ohonynt. Bydd y gweithdai wythnosol yn cael eu recordio a’u huwchlwytho i dudalen breifat ar wefan Small Business Britain, er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn hygyrch i bawb.

Bydd y cwrs rhyngweithiol yn mynd i’r afael â’r pynciau canlynol:

  • Creu Cynllun Gweithredu
  • Technoleg i roi Hwb i’ch Nodau Cynaliadwyedd (gan gynnwys defnyddio deallusrwydd artiffisial!)
  • Delio â Gorlwytho ym Maes Cynaliadwyedd
  • Brandio Cynaliadwy a Chreu Cynnwys ar gyfer eich Cyfryngau Cymdeithasol
  • Gweithrediadau Busnes Cynaliadwy a'r Economi Gylchol
  • Grantiau Gwyrdd a Chyflwyno Ceisiadau am Gyllid

Mae'r rhaglen yn agored i bob busnes bach.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Small Business Britain | Champion. Inspire. Accelerate.

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei chael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel. Cofrestrwch heddiw: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.