BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyngor teithio ar fysiau a threnau am ddim ar gyfer ffoaduriaid

International Women's Day 2024 Event

Dechreuodd y cynllun teithio am ddim ar 26 Mawrth 2022 a bydd yn para tan 31 Mawrth 2024. Mae trefniadau ar gyfer ar ôl 31 Mawrth 2024 yn cael eu hystyried.

Mae’r cynllun yn caniatáu teithio diderfyn ar:

  • y rhan fwyaf o gwasanaethau bysiau lleol
  • gwasanaethau trenau Trafnidiaeth Cymru ledled Cymru
  • gwasanaethau bysiau a threnau Trafnidiaeth Cymru sy’n dechrau AC yn gorffen yng Nghymru

Mae’r cynllun ar gael i ffoaduriaid sy’n teithio i Gymru i chwilio am loches.

Mae’r cynllun ar gael i bob ffoadur a’r rheini sy’n ceisio amddiffyniad rhyngwladol yma yng Nghymru, yn unol â’n gweledigaeth i fod yn Genedl Noddfa, ond rhaid dangos un o’r canlynol:

  • Trwydded Breswylio Fiometrig (BRP) sy’n nodi bod rhywun yn 'Ffoadur', bod ganddo statws 'HP' neu ‘Amddiffyniad Dyngarol’ (‘Humanitarion Protection’) neu sy’n cynnwys y geiriau ‘Afghan’, ‘Ukraine’ neu ‘Hong Kong’;
  • llythyr oddi wrth y Swyddfa Gartref / Ysgrifennydd Cartref wedi’i gyfeirio’n bersonol sy’n cadarnhau un o’r statysau a restrir yn y pwynt bwled uchod
  • pasbort dilys Wcráin neu Affghanistan neu Basbort Gwladolion Tramor Prydeinig Hong Kong

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Cyngor teithio ar fysiau a threnau am ddim ar gyfer ffoaduriaid | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.