Bydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn cynnal ei gynhadledd flynyddol ar 22 Mawrth 2024, yn ICC Cymru, Casnewydd. Y thema eleni yw ‘Prentisiaethau, Sgiliau ar gyfer Twf Economaidd yng Nghymru’.
Bydd y gynhadledd, a fydd yn cynnwys trafodaeth gan banel o gyflogwyr, yn canolbwyntio ar “fynd ati heddiw i adeiladu llwyddiant yfory”.
Bydd cynrychiolwyr yn trafod sut i ddatgloi potensial trwy brentisiaethau, gan rymuso pobl ar gyfer y dyfodol, grymuso cyflogwyr a sbarduno ffyniant economaidd.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys nifer o weithdai, gan gynnwys:
- Economi a Seilir ar Sgiliau yng Nghymru: Tyfu BBaChau trwy Ddatblygu Sgiliau.
- Recriwtio, cadw staff a rheoleiddio proffesiynol.
- Cymraeg 2050 – Datblygu gweithlu ar gyfer Cymru ddwyieithog.
- Archwilio sut y gall technolegau digidol wella profiad prentisiaid o ran dysgu ac asesu.
- Yr Asesydd a’i rôl ganolog ac allweddol ym mhrofiad y prentis.
- Stigma Iechyd Meddwl mewn Gweithleoedd.
- Ffeindio’ch ffordd trwy gyfleoedd a heriau AI (Deallusrwydd Artiffisial).
Y dyddiad cau ar gyfer archebu lle yw dydd Mercher 6 Mawrth 2024. I gael manylion ychwanegol ac i sicrhau eich tocynnau, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cynhadledd NTFW 2024 | Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
Paratowch eich busnes drwy nodi bwlch sgiliau, datblygu sgiliau eich gweithle er mwyn sicrhau llwyddiant ac addasu eich gweithlu gyda gweithwyr medrus newydd: Croeso i Recriwtio a Hyfforddi - am wybodaeth a chyngor ar gymorth recriwtio a hyfforddiant | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales)