Newyddion

Cynllun Benthyciad Busnes Gwyrdd

Happy co-workers

Ymunwch â Business Green i ddathlu’r hyn sydd ar reng flaen economi werdd y DU yng Ngwobrau Busnes Gwyrdd y DU. Mae’r digwyddiad, sy’n cydnabod arloesedd a chynaliadwyedd, yn arddangos cwmnïau, prosiectau ac ymgyrchoedd eithriadol.

Mae 29 categori’n anrhydeddu llwyddiannau ym maes ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni, yr economi gylchol, ymgyrchoedd marchnata, busnesau bach ac arloesiadau. 

Mae cynigion ar gyfer y gwobrau yn cau ar 28 Chwefror 2025.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: UK Green Business Awards 2025 

Gallwch gofrestru ar gyfer ‘Yr Addewid Twf Gwyrdd a helpu eich busnes i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eich cynaliadwyedd. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.