BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig ar gael nawr

Bydd unigolion hunangyflogedig neu aelodau o bartneriaethau y mae eu busnesau wedi’u heffeithio’n niweidiol gan goronafeirws yn gallu gwneud cais am grant Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig gwerth 80% o gyfartaledd eu helw masnachu misol.

Bydd pobl yn gallu gwneud cais ar ddyddiad penodol rhwng 13 a 18 Mai 2020, ar sail eu Cyfeirnod Treth Unigryw. Gellir gwirio’r cyfeirnod hwn ar wiriwr ar-lein CThEM a bydd y rhai sy’n gymwys yn derbyn grant o hyd at £7,500 gan y llywodraeth.

Bydd unigolion yn gymwys os yw eu busnes wedi’i effeithio’n niweidiol gan goronafeirws, os ydyn nhw wedi masnachu ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, eu bod yn bwriadu dal ati i fasnachu, a’u bod:

  • yn ennill o leiaf hanner eu hincwm drwy hunangyflogaeth
  • bod eu helw masnachu yn ddim mwy na £50,000 y flwyddyn
  • eu bod wedi masnachu yn y flwyddyn dreth 2018 i 2019 ac wedi cyflwyno eu ffurflenni treth Hunanasesu ar neu cyn 23 Ebrill 2020 ar gyfer y flwyddyn honno

Am ragor o wybodaeth am y grant Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, ewch i wefan GOV.UK.

 Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.