BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni newydd i fusnesau

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi'r Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni newydd i fusnesau, elusennau, a'r sector cyhoeddus o fis Ebrill.

Mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi'r cymorth canlynol ar gyfer cwsmeriaid annomestig cymwys sydd â chontract gyda chyflenwyr ynni trwyddedig:

  • O 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024, bydd pob cwsmer annomestig cymwys sydd â chontract gyda chyflenwyr ynni trwyddedig yn gweld gostyngiad i bris uned o hyd at £6.97/MWh yn cael ei gymhwyso’n awtomatig i'w bil nwy a gostyngiad i bris uned o hyd at £19.61/MWh yn cael ei gymhwyso i'w bil trydan.
  • Bydd hyn yn amodol ar drothwy pris cyfanwerthu, a bennir gan gyfeirio at y gefnogaeth a ddarperir ar gyfer defnyddwyr domestig, sef £107/MWh ar gyfer nwy a £302/MWh ar gyfer trydan. Mae hyn yn golygu na fydd busnesau sydd â chostau ynni is na’r lefel hon yn derbyn cefnogaeth.
  • Nid oes angen i gwsmeriaid wneud cais am eu gostyngiad. Fel yn achos y cynllun presennol, bydd cyflenwyr yn cymhwyso gostyngiadau yn awtomatig i filiau pob cwsmer annomestig cymwys.

Ar gyfer Diwydiannau Ynni a Masnach Dwys cymwys, mae Llywodraeth y DU yn cyhoeddi:

  • Bydd y busnesau hyn yn derbyn gostyngiad sy'n adlewyrchu'r gwahaniaeth rhwng trothwy prisiau a'r pris cyfanwerthu perthnasol.
  • Trothwy’r pris ar gyfer y cynllun fydd £99/MWh ar gyfer nwy a £185/MWh ar gyfer trydan.
  • Bydd y gostyngiad hwn yn berthnasol i 70% o gyfansymiau ynni yn unig a bydd yn amodol ar 'fwyafswm o ostyngiad' o £40.0/MWh ar gyfer nwy a £89.1/MWh ar gyfer trydan.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol:

Mae Busnes Cymru yma i gefnogi busnesau drwy'r argyfwng costau byw. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael mwy o wybodaeth Cost Gwneud Busnes | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.