BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun gweithredu i helpu ffermwyr i fanteisio ar dechnoleg ddigidol

Smart Pest Management Farmer Smartphone Controls Chemicals for Pest Elimination

Mae cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau bod y sector amaeth yng Nghymru yn elwa i'r eithaf ar dechnoleg ddigidol.

Mae'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Technoleg Amaethyddol sy’n cael ei gyhoeddi yn nodi gweledigaeth i gefnogi'r sector i fod yn broffidiol, yn effeithlon ac yn gynaliadwy, ac yn manteisio ar botensial technoleg amaethyddol ar sail pedair blaenoriaeth.

Nod y blaenoriaethau hyn yw cyflymu gallu technoleg amaethyddol, ysgogi mabwysiadu mentrau technoleg amaethyddol sy'n gwella cynhyrchiant ar y fferm, darparu manteision amgylcheddol a chefnogi datblygiad addysgol a sgiliau i fanteisio ar dechnoleg amaethyddol i'r eithaf.

Bydd y cynllun yn helpu'r rhai yn y sector amaeth drwy, er enghraifft, wneud gweithgarwch ar y fferm yn fwy effeithlon a manwl gywir. Gyda chymorth technoleg, gellir cysylltu mewnbynnau amaethyddol, gan gynnwys dŵr a gwrtaith, ag amodau planhigion, anifeiliaid a phridd gan helpu i leihau gwastraff a chostau i'r ffermwr.

Bydd cydweithio yn allweddol i sicrhau bod y diwydiant yn gwireddu manteision technoleg amaethyddol, ac mae'r cynllun wedi'i ddatblygu drwy gydweithio'n agos â rhanddeiliaid, sy'n cynnwys cyrff diwydiannol, ymarferwyr amaethyddol, a chymunedau academaidd.

Bydd gwaith Cyswllt Ffermio yn bwysig yn cefnogi'r cynllun ac mae'r cyllid presennol eisoes yn helpu ffermydd ledled Cymru i fabwysiadu technoleg amaethyddol.

Mae'r gweithgareddau yn cynnwys rhwydwaith arddangos ffermydd Cyswllt Ffermio, "Ein Ffermydd", i amlygu data ac astudiaethau achos i hyrwyddo technoleg amaethyddol wrth gyflwyno digwyddiadau sy'n targedu defnydd y dechnoleg honno, codi ymwybyddiaeth a darparu cefnogaeth i'r sector ar y daith o ddefnyddio technoleg.

Mae Cyswllt Ffermio hefyd yn cynnig hyfforddiant a deunydd e-ddysgu achrededig i wella lefel sgiliau a hyder pobl mewn technoleg. Bydd hyn yn galluogi mwy o bobl i fabwysiadu ac elwa ar dechnoleg amaethyddol ar ffermydd tra bo’r Gwasanaeth Cynghori yn cynnig cyngor i unigolion a grwpiau am bris gostyngol.

Gallwch weld Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Technoleg Amaethyddol yma Cynllun Gweithredu Tech-Amaeth | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.