BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Llywodraeth Cymru’n helpu miloedd o bobl ifanc yng Nghymru i gael gwaith

Mae mwy nag 11,000 o bobl ifanc wedi cael help i gael swydd yn ystod blwyddyn gyntaf rhaglen flaengar Llywodraeth Cymru i bobl ifanc, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw (8 Chwefror 2023).

Mae Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc (YPG) yn cynnig help i bobl dan 25 oed yng Nghymru i gael swydd neu le mewn addysg neu hyfforddiant neu i fynd yn hunangyflogedig. Mae Gweinidogion wedi ymrwymo £1.4 biliwn y flwyddyn o gymorth i bobl ifanc Cymru o dan raglenni amrywiol yr YPG.

Mae’r Gweinidog yn cyhoeddi heddiw 'Adroddiad blynyddol cenhedlaeth Z y Warant Person Ifanc: 2022 i 2023', y cyntaf mewn cyfres o adroddiadau ar genhedlaeth Z fydd yn disgrifio’r gwaith sy’n cael ei wneud i wireddu un o brif ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn ei Rhaglen Lywodraethu.

Mae’r Gweinidog yn cyhoeddi heddiw (8 Chwefror 2023) hefyd bod Llywodraeth Cymru’n cynyddu’r pecyn cymorth i’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynlluniau’r rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Bydd hyn yn help i bobl ifanc dros yr argyfwng costau byw trwy leihau’r rhwystrau ariannol allai fod yn eu hatal rhag ymuno â’r rhaglen ac aros ynddi.

Mae’r cymorth ychwanegol yn cynnwys:

  • dyblu’r Lwfans Hyfforddi i £60
  • lwfans newydd ar gyfer prydau bwyd am ddim
  • trefniant dros dro i dalu 100% o’r costau teithio (os yn cael hyfforddiant)
  • ymestyn yr oed ar gyfer cofrestru ar y Rhaglen i 19 oed

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolenni ganlynol:

Os ydych chi'n 25 neu'n iau ac yn wynebu rhwystrau sy'n eich atal rhag cychwyn busnes, yn chwilio am gyfle newydd, neu os oes gennych chi syniad busnes gwych, yna gall Syniadau Mawr Cymru helpu Hafan | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.