Mae’r prosiect blynyddol yn dathlu’r enghreifftiau gorau o entrepreneuriaeth yng Nghymru. Caiff gwobrau eu cyflwyno i’r cwmnïau sy’n tyfu gyflymaf ym mhob un o sectorau allweddol economi Cymru, yn ogystal â gwobrau unigol ar gyfer twf hirdymor cynaliadwy.
Mae prosiect Twf Cyflym 50 yn dibynnu ar gael gwybodaeth a cheisiadau wedi'u cwblhau gan gwmnïau sydd wedyn yn cael eu gwirio gan ddata Tŷ’r Cwmnïau neu drwy gyfrifyddion y cwmni.
Bydd y ceisiadau yn cael eu graddio yn seiliedig ar dwf canrannol refeniw rhwng 2017 a 2019.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 31 Gorffennaf 2020.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Twf Cyflym 50.
Edrychwch ar dudalennau Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru i gael cymorth ar gyfer manteisio i’r eithaf ar botensial eich busnes.