BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Cyhoeddi ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ar gyflwyno Tracio Gwastraff Digidol gorfodol

 Dump truck driver man in uniform with tablet computer controls loading of cargo

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Rwy'n falch o gyhoeddi cyhoeddi ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad ar y Gwasanaeth Olrhain Gwastraff Digidol gorfodol. Mae'r ymateb wedi'i gyhoeddi ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU, yr Adran Amaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig, Gogledd Iwerddon, a Llywodraeth yr Alban.

Daw hyn yn dilyn ymgynghoriad ar y cyd a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2022 ac mae adborth o'r ymgynghoriad hwn yn cael ei ddefnyddio wrth ddatblygu'r gwasanaeth olrhain gwastraff digidol.  Cafodd crynodeb o'r ymatebion ei gyhoeddi fis Rhagfyr diwethaf. 

Rydym yn defnyddio'r ymatebion i'r ymgynghoriad i adolygu a mireinio ein cynigion a fydd wedyn yn cael eu hadlewyrchu mewn is-ddeddfwriaeth ac yn llywio’r broses ddylunio ddigidol ar gyfer gwasanaeth olrhain gwastraff ledled y DU.

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddoleni ganlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.