BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Defnyddiwch Ymennydd Pawb

Mae gan bawb ymennydd. Fodd bynnag, nid pawb sy’n defnyddio eu hymennydd yn y gwaith! Yn aml, mae pobl yn dod i’r gwaith fel petaen nhw wedi gadael eu hymennydd gyda’u cot ar y bachyn. O ganlyniad, pan fyddan nhw’n gweld pethau sydd o chwith, problemau y mae angen eu datrys, maen nhw’n gwneud ... dim byd! 

I gynnal busnes twf uchel llwyddiannus, mae angen i bawb ddefnyddio’u hymennydd. Ond chi sy’n gyfrifol am wneud i hyn ddigwydd. Mae angen i chi:

  • Annog pawb i arbrofi – gadewch i bobl geisio gwneud pethau ychydig yn wahanol os ydyn nhw’n credu y gallant wneud i rywbeth weithio’n well.
  • Gwobrwyo syniadau da – rhannwch y buddion os bydd rhywun yn meddwl am syniad sy’n arbed arian i chi.
  • Hyfforddi pobl – mae llawer o dechnegau datrys problemau syml, wedi’u seilio ar dîm, y gallwch eu defnyddio’n rhwydd i helpu pobl i feddwl am syniadau ar gyfer gwneud pethau ychydig yn well.

Pan fyddwch wedi annog pawb i ddefnyddio’u hymennydd, chwiliwch am ffyrdd o wneud eich prosesau’n llyfnach fyth, yna bydd yr arbedion costau anodd eu cyflawni rydych yn siŵr y gallwch eu gwneud yn gwireddu’n sydyn. Yna, daw’r pwysau gan gwsmeriaid i gadw’ch prisiau’n gystadleuol yn hawdd eu trin.

Defnyddiwch ymennydd pawb – gadewch i’ch pobl amlygu ffyrdd o arbed arian i chi.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf. ​​​​​​


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.