BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Delio gyda chwynion diogelu data fel busnes bach

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi cyhoeddi deunydd newydd ar eu hwb i Fusnesau Bach a Chanolig (BBaCh) ynghylch delio gyda chwynion diogelu data, gan gynnwys canllawiau ar chwe cham allweddol i'w cymryd os ydych chi'n destun cwyn.

Hyd yn oed gyda pholisïau diogelu data priodol ar waith, weithiau gall eich staff, contractwyr, cwsmeriaid neu eraill rydych yn cadw data amdanynt, fod yn anhapus â’r ffordd rydych chi wedi ymdrin â’u gwybodaeth bersonol. Mae eich ymateb yn bwysig, oherwydd bydd cymryd y camau cywir yn helpu i amddiffyn eich enw da fel busnes sy’n gofalu am wybodaeth pobl. Bydd hyn hefyd yn eich helpu i ddarparu gwell gwasanaeth i’ch cwsmeriaid.

Mae’r canllaw wedi cael ei ysgrifennu i helpu busnesau bach i ddelio â chwynion am sut maen nhw wedi defnyddio gwybodaeth pobl. Os ydych chi’n elusen fach, yn grŵp neu glwb bach, neu'n sefydliad bach, bydd yn ddefnyddiol i chi hefyd.

I gael mwy o wybodaeth ewch i How to deal with data protection complaints you receive as a small business | ICO


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.