Mae dewis enw i'ch busnes yn broses greadigol a phleserus. Mae hefyd yn broses y mae'n rhaid i chi ei gwneud yn gywir. Gall cwsmeriaid ddod i sawl casgliad ar sail enw eich busnes ac mae argraffiadau cyntaf yn bwysig.
Er y gall fod yn demtasiwn rhoi eich marc personol ar enw eich busnes, mae sawl mater arall i'w hystyried.
Y llynedd, mewn cyfarfod o bwyllgor Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, pleidleisiodd yr Aelodau o blaid arddel yr enwau Eryri ac Yr Wyddfa yn y Gymraeg ac yn y Saesneg fel ei gilydd. Mabwysiadwyd hefyd ddogfen Egwyddorion Enwau Lleoedd fel canllaw ar gyfer y defnydd o enwau lleoedd o fewn y Parc Cenedlaethol gan yr Awdurdod.
Yn dilyn cyfnod o gydweithio agos gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi argymell rhestr safonol o enwau llynnoedd Eryri. Yng nghyfarfod o Bwyllgor Awdurdod y Parc Cenedlaethol wythnos yma, pleidleisiwyd yn unfrydol o blaid arddel y rhestr safonol hon.
Gyda hyn mewn golwg a yw eich busnes chi am feddwl am ddefnyddio mwy o Gymraeg?
Helo Blod yw’r lle i gael cyngor ar sut mae defnyddio mwy o Gymraeg yn eich busnes neu elusen. Gall Helo Blod gyfieithu hyd at 500 gair i’r Gymraeg, bob mis, am ddim i'ch busnes.
Am fwy o wybodaeth ewch yma Croeso i Helo Blod | Helo Blod (llyw.cymru)