Mae’r dyddiad cau estynedig ar gyfer adrodd am ddata Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yn prysur agosáu, gyda phob cwmni sydd â dros 250 o weithwyr yn gorfod adrodd ar eu data erbyn 4 Hydref 2021.
Cynhelir y digwyddiad digidol hwn rhwng 1pm a 2pm ar 13 Medi 2021, ac mae’n rhoi cyfle i glywed yn uniongyrchol gan arweinwyr busnes am fanteision cynllunio gweithredu ar gyfer y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Mae’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) wedi bod yn gweithio gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) i ddarparu pecyn cymorth i fusnesau sy’n cynnig offer ac adnoddau ymarferol ar gyfer cynllunio gweithredu, yn ogystal â chyfres o astudiaethau achos gan fusnesau blaenllaw sydd wedi gweld manteision busnes cynllunio gweithredu ar gyfer y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Bydd y Behavioural Insights Team hefyd yn sôn am y dystiolaeth ddiweddaraf ynghylch yr hyn sy’n gweithio i wella cydraddoldeb rhywiol yn y gweithle.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle, defnyddiwch y ddolen ganlynol: Tocynnau Sut i Gau’r Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau, Dydd Llun, 13 Medi, 2021 am 1:00 PM | Eventbrite