BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiad Ymateb i Seiberddigwyddiad

Digital padlock - cyber security

Beth yw wneud a beth ddim i’w wneud pan fydd eich busnes yn dioddef ymosodiad seiber.

Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio ar gyfer rheolwyr a rheini sy’n gwneud penderfyniadau annhechnegol mewn busnes a sefydliadau eraill, gan gynnig esboniadau a therminoleg hawdd eu deall sy'n gysylltiedig â TG a seiberddiogelwch.

Mae'r digwyddiad am ddim i'w fynychu ac fe'i cynhelir ddydd Mercher 11 Medi 2024 rhwng 9am a 1:30pm yn Thales, Mill Lane, Glyn Ebwy. NP23 6GL. 

Bydd y rhai sy'n mynychu yn cael cyfle i brofi ymarfer realistig yn seiliedig ar fath o ymosodiad seiber a brofir yn aml gan fusnesau gyda'r nod o'u helpu pe bai ymosodiad.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle, dewiswch y ddolen ganlynol: Events | Cyber Resilience Centre for Wales (wcrcentre.co.uk)

Mae seibergadernid yn rhywbeth na all yr un busnes yng Nghymru fforddio bod hebddo. Nid problem i gwmnïau mawr yn unig yw seiberddiogelwch: mae arolwg diweddar yn awgrymu bod 72% o fusnesau bach wedi dioddef seiberdrosedd. Ni ddylai hi fod yn gymhleth na chostus sicrhau lefel sylfaenol o ddiogelwch. Darllenwch ein blog diweddaraf ar seiberddiogelwch: Arloesi, cydweithredu a chefnogi: seiberddiogelu busnesau yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales).


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.