BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiadau’r Hydref Skills Cymru 2023

Bydd Skills Cymru, y digwyddiad gyrfaoedd a sgiliau i Gymru, yn cael ei gynnal yn Llandudno a Chaerdydd ym mis Hydref eleni. Mae’r digwyddiad hynod ryngweithiol hwn yn croesawu hyd at 10,000 o ymwelwyr, gan ddarparu amrywiaeth eang iawn o gyfleoedd iddyn nhw yn ogystal â’r llwybrau i’w dilyn i’w cyflawni.

Bob blwyddyn, bydd dros 100 o gwmnïau a sefydliadau’n mwynhau cwrdd â’r genhedlaeth nesaf o arweinyddion a gweithwyr yng Nghymru a dylanwadu arnyn nhw. Mae’n gyfle iddyn nhw ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc wyneb-yn-wyneb a sôn wrthyn nhw am yrfaoedd nad oedden nhw o bosibl wedi eu hystyried o’r blaen. Bydd sefydliadau o sectorau allweddol yn y diwydiant yn cynrychioli prif gyflogwyr Cymru ac fe fyddan nhw wrth law i roi’r cyngor a’r arweiniad sydd ei angen ar bobl ifanc i ddilyn gyrfa yn eu dewis o ddiwydiant.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni canlynol:

I ddarganfod sut bydd cynyddu sgiliau eich gweithlu o fudd i'ch busnes, ewch i dudalennau Porth Sgiliau Busnes Cymru.

 



 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.