Wrth i’r cyfyngiadau cyfreithiol gael eu llacio ac wrth i ragor o fangreoedd gael agor, mae'n anochel y bydd mwy o ryngweithio corfforol rhwng pobl. Mae hyn yn golygu bod y risg o ledaenu'r feirws yn cynyddu.
Felly, wrth i fwy a mwy o bobl fynd i’r un lleoedd ag eraill, mae gan fusnesau sy'n gweithredu mewn sectorau lle mae risg uwch o ledaenu'r coronafeirws rôl allweddol o ran cefnogi’r broses o olrhain cysylltiadau a diogelu Cymru.
Mae'n amlwg yn fesur rhesymol i'r rhai sy'n gyfrifol am y busnesau neu'r mangreoedd canlynol gasglu a chadw gwybodaeth gyswllt:
- lletygarwch, gan gynnwys tafarndai, bariau, bwytai a chaffis
- sinemâu
- gwasanaethau cysylltiad agos, gan gynnwys siopau trin gwallt a siopau barbwr, gwasanaethau harddwch, gwasanaethau tatŵio, therapyddion chwaraeon a thylino
- pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd, sbâs, a chanolfannau neu gyfleusterau hamdden eraill o dan do
Cofiwch mai cyfrifoldeb y busnes neu'r person sy'n gyfrifol am y fangre yw gwneud hyn, nid y cwsmer neu’r ymwelydd.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.