BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diogelu eich gweithwyr rhag trais ac ymddygiad ymosodol

aggressive customer

Gall trais ac ymddygiad ymosodol yn y gwaith gael effaith ddifrifol ar iechyd corfforol a meddyliol eich gweithwyr. 

Bydd canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar drais yn y gwaith yn eich helpu i ddiogelu eich gweithwyr. 
 Bydd y canllawiau yn eich helpu i:

  • asesu’r risgiau
  • rhoi’r mesurau rheoli cywir ar waith er mwyn diogelu gweithwyr
  • adrodd am ddigwyddiadau a dysgu oddi wrthynt 

Mae canllawiau penodol ar sut i gefnogi eich gweithwyr ar ôl digwyddiad treisgar hefyd ar gael. Ceir enghreifftiau hefyd o sefyllfaoedd cyffredin.

Yn ogystal, ceir cyngor ar wahân i weithwyr, sy'n esbonio sut y gallant helpu cyflogwyr i atal digwyddiadau treisgar yn y gwaith.

Gall y rhai sy’n gweithio ar eu pen eu hunain fod yn arbennig o agored i niwed ac mae cyngor penodol ar sut y dylai cyflogwyr ddiogelu gweithwyr unigol rhag trais


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.