BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Diogelu’ch trysorau

Os ydych chi’n gwneud pethau’n wahanol, mae’n siŵr y bydd gennych chi rywfaint o ‘eiddo deallusol’ fel y’i gelwir. Mae’n rhan o’r hyn sy’n rhoi’r fantais i chi yn y farchnad. Felly diogelwch hynny, cyn i rywun arall ei ddwyn.

Edrychwch ar y posibilrwydd o ddefnyddio patentau, hawl dylunio, dyluniad cofrestredig, nod masnach, hawlfraint a chytundebau cyfrinachedd. Mae pris i’w dalu yn amlwg - ond gallai buddsoddi mewn diogelu Hawliau Eiddo Deallusol fod yn un o’r buddsoddiadau gorau wnewch chi erioed. Dyw hyn ddim yn rhywbeth i’r cwmnïau mawr yn unig. Ond da chi peidiwch â gadael pethau’n rhy hwyr - mae cystadleuwyr yn gallu cael mynediad i’ch Hawliau Eiddo Deallusol yn llawer cynt nag oedden nhw, y cyfan sydd rhaid gwneud yw mynd i’ch gwefan er enghraifft!

Mae ffugio yn ddiwydiant enfawr bellach - yn fwy nag incwm gwladol y rhan fwyaf o wledydd. Dyw diogelu Hawliau Eiddo Deallusol ddim yn berffaith - ond mae ffugwyr fel y rhan fwyaf o droseddwyr, maen nhw’n tueddu i fynd am y targedau hawdd, h.y. y rhai heb ddiogelwch. Felly diogelwch eich eiddo deallusol, eich trysorau!

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.