BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Dirprwyo a datblygu

Ynghyd â'n dau bwynt nesaf, mae hyn yn golygu gwneud rhai buddsoddiadau doeth. Yn yr achos hwn, buddsoddi mewn pobl.

Mae dirprwyo'n hanfodol mewn busnes twf uchel. Mae twf yn golygu bod yn rhaid i chi anghofio am bethau a symud ymlaen - i bethau pwysicach. Felly peidiwch â pharhau gyda rhywbeth nad ydych chi'n dda iawn am ei wneud e.e. cyllid. Roeddech chi'n gorfod gwneud hynny fel unig aelod o'r busnes, ond nawr, neilltuwch y dasg i rywun arall. Peidiwch â gwneud tasgau dim ond am eich bod chi’n eu mwynhau nhw - rhaid i anghenion y busnes ddod yn gyntaf. Mae eich amser yn adnodd allweddol - felly gwnewch ddefnydd doeth ohono gan ganolbwyntio ar bethau gwirioneddol bwysig - peidiwch â chamgymryd brys am bwysigrwydd.

Gofynnwch bob amser, "Oes gwir angen i mi wneud hyn?" Unwaith i chi benderfynu dirprwyo, gwnewch hynny'n iawn. Eglurwch i bwy rydych yn dirprwyo, pam rydych chi'n dirprwyo, pam mae'r dasg yn bwysig, pa ganlyniadau rydych yn chwilio amdanynt, sut byddwch chi'n monitro. Yna gadewch iddyn nhw fwrw ati. Fyddan nhw ddim yn gwneud yn union fel y gwnaethoch chi - ond y canlyniad sy'n bwysig. Cofiwch eu cefnogi a'u hannog ond peidiwch â rhoi'ch pig i mewn – gadewch iddyn nhw ddod o hyd i’r ffordd orau o gyflawni'r dasg, a'u gadael i arbrofi. Yn anad dim, rhaid gollwng gafael.

Ein hail 'D' yw datblygu. Sydd ddim yn golygu hyfforddi! Mae hyfforddiant yn iawn – i gŵn a chathod! Gyda phobl, mae'n ymwneud â datblygu. Mae'r datblygiad gorau yn digwydd yn y swydd, yn y gweithle lle gellir ei ddefnyddio, lle gall ychwanegu gwerth at y busnes ar unwaith. Wrth i'ch busnes ddatblygu, peidiwch â gwneud y camgymeriad o ddynwared PLCs mawr a sefydliadau mawr y sector cyhoeddus. Maen nhw'n gwario ffortiwn ar anfon staff ar lu o gyrsiau hyfforddi drud, ffansi ac allanol. Mae bron bob amser yn wastraff enfawr o amser ac arian. 

Gadewch i'ch cystadleuwyr fynd ar yr holl gyrsiau hyfforddi rheoli allanol am 4-5 diwrnod.Yn Winning Pitch, dydyn ni byth yn mynd â phobl oddi ar y safle am fwy nag un diwrnod ar y tro - ac ar unrhyw raglen, rydyn ni'n treulio'r rhan fwyaf o'r amser yn ôl yn y gweithle yn helpu pobl i ddefnyddio'r offer a'r technegau a ddysgwyd yn un o'n gweithdai neu Ddosbarthiadau Meistr, yn eu hamgylchedd gwaith unigryw eu hunain. Mae'r datblygiad gorau'n digwydd yn fewnol, yn y gweithle. Felly buddsoddwch rywfaint o amser i ddatblygu eich pobl - gyda'ch rheolwyr eich hun yn darparu'r cymorth mentora, yn cymell ac yn darparu’r hyfforddiant angenrheidiol. Pob un wedi'i deilwra i'ch amgylchiadau penodol chi. Os yw pobl yn mynd ar gyrsiau hyfforddi allanol, mynnwch eu bod nhw'n hyfforddi eraill wedyn ar ôl dychwelyd h.y. rhannu'r hyn a ddysgwyd gyda chydweithwyr - os yw'n ddefnyddiol, go brin mai dim ond un person sydd ei angen.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.