BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Aer Glân 2023

Diwrnod Aer Glân, a gynhelir ar 15 Mehefin 2023, yw ymgyrch llygredd aer fwyaf y DU, sy’n ymgysylltu â miloedd o bobl mewn cannoedd o ddigwyddiadau, ac yn cyrraedd miliynau yn fwy trwy'r cyfryngau. 

Mae Diwrnod Aer Glân, a gydlynir gan y Global Action Plan, yn dod â chymunedau, busnesau, addysg a'r sector iechyd at ei gilydd i:

  • wella dealltwriaeth y cyhoedd o lygredd aer
  • meithrin ymwybyddiaeth o sut mae llygredd aer yn effeithio ar ein hiechyd 
  • esbonio rhai o'r pethau hawdd y gallwn ni i gyd eu gwneud i fynd i'r afael â llygredd aer er mwyn helpu i ddiogelu ein hiechyd a'r amgylchedd 

Mae Business Action on Clean Air  yn ganolfan wybodaeth i bobl sy'n gweithio mewn busnes, sydd eisiau dysgu sut mae eu cwmni a'u diwydiant ehangach yn cyfrannu at lygredd aer, a'r camau y gellir eu cymryd i ddeall a mynd i'r afael â'r mater.

Mae Diwrnod Aer Glân yn gyfle i fusnesau godi ymwybyddiaeth ac arddangos eu gwaith i frwydro yn erbyn llygredd aer. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Clean Air Day | Action for Clean Air

Llywodraeth Cymru yn dathlu Diwrnod Aer Glân gyda hwb o £58m i deithio llesol

Bydd mwy na £58m yn cael ei fuddsoddi mewn ffyrdd i'n helpu i ddewis cerdded a beicio ar gyfer teithiau lleol, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, heddiw (dydd Iau, 15 Mehefin): Llywodraeth Cymru yn dathlu Diwrnod Aer Glân gyda hwb o £58m i deithio llesol | LLYW.CYMRU

Mae'r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r lleoedd o'u cwmpas. Cofrestrwch heddiw Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.