![hands holding a globe](/sites/maingel2/files/styles/post_featured/public/images/Untitled%20-%202024-03-28T151045.562.png.webp?itok=XN3uMebn)
Diwrnod Amgylchedd y Byd 2024, a gynhelir ar 5 Mehefin, yw’r diwrnod rhyngwladol mwyaf ar gyfer dathlu’r amgylchedd.
Dan arweiniad Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP) (United Nations Environment Programme), cynhaliwyd y diwrnod yn flynyddol ers 1974, ac mae wedi tyfu i fod y llwyfan byd-eang mwyaf ar gyfer allgymorth amgylcheddol. Mae’n cael ei ddathlu gan filiynau o bobl ledled y byd.
Eleni, mae’r diwrnod yn canolbwyntio ar adfer tir, diffeithdiro, a gwytnwch rhag sychder.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: World Environment Day
Dysgwch sut i gymryd camau rhagweithiol i wella cynaliadwyedd yn eich busnes wrth ymweld ag Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru.