Ar Ddiwrnod Amser i Siarad rydym yn gofyn wrth y genedl i gael sgwrs am iechyd meddwl.
Cynhelir Diwrnod Amser i Siarad 2024 ddydd Iau 1 Chwefror.
Thema eleni yw annog pobl i siarad am sut maen nhw wir yn teimlo. Weithiau mae'n haws dweud wrth bobl ein bod ni'n 'iawn' na dweud sut rydyn ni'n teimlo mewn gwirionedd. Drwy siarad am iechyd meddwl gallwn chwalu mythau a chwalu rhwystrau.
Mae problemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli - gan effeithio ar un o bob pedwar ohonom.
Mae Diwrnod Amser i Siarad yn gyfle perffaith i ddechrau sgwrs am iechyd meddwl.
Tecstiwch ffrind, sgwrsiwch gyda chydweithiwr, codwch ymwybyddiaeth yn eich cymuned neu rhannwch rywbeth ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #AmserISiarad.
Gadewch i ni siarad am iechyd meddwl.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Diwrnod Amser i Siarad 2024
Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ac yn gallu effeithio ar ein hiechyd meddwl a'n lles. P'un a ydych chi'n hunangyflogedig neu'n berchennog busnes, dylen ni gymryd camau i ofalu am ein hiechyd meddwl ni a’n gweithwyr. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Lles ac Iechyd Meddwl | Busnes Cymru (gov.wales)