BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Atal Gwastraff Bwyd

Diwrnod Atal Gwastraff Bwyd yw'r diwrnod gweithredu mwyaf yn y frwydr yn erbyn gwastraff bwyd ac mae'n digwydd ar 26 Ebrill 2023.

Mae gwastraff bwyd yn ganolog i rai o'r heriau allweddol sy'n wynebu'r byd heddiw, gan gynnwys newyn a thlodi, newid yn yr hinsawdd, iechyd a lles a chynaliadwyedd amaethyddiaeth a chefnforoedd. Mae gwastraffu bwyd hefyd yn wastraff o'r ynni i dyfu, cynaeafu, prosesu a choginio, a gall gwastraff bwyd mewn safleoedd tirlenwi achosi allyriadau methan, sy’n nwy tŷ gwydr cryf.

Mae'n hawdd i bawb fod ynghlwm wrth leihau effaith gwastraff bwyd, nid yn unig ar Ddiwrnod Atal Gwastraff Bwyd, ond ddydd ar ôl dydd - yn ein bywydau personol a phroffesiynol. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol About (stopfoodwasteday.com)

Os hoffech fwy o wybodaeth am atal gwastraff bwyd o’r ffynhonnell, ewch i wefan Wrap Surplus food redistribution | WRAP ac i gael gwybodaeth am ddargyfeirio'ch bwyd dros ben i elusennau rheng flaen a sut y gallech fod yn gymwys i gael cyllid i helpu i leihau eich gwastraff bwyd, cliciwch ar y ddolen ganlynol Bwyd dros ben ag amcan - FareShare Cymru.

Beth am gofrestru ar gyfer ‘Addewid Twf Gwyrdd’ a helpu eich busnes i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eich cynaliadwyedd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.