BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Diogelwch Bwyd y Byd 2024

Food production safety inspectors

Cynhelir Diwrnod Diogelwch Bwyd y Byd ar 7 Mehefin 2024 a bydd yn tynnu sylw at ac yn ysbrydoli camau gweithredu er mwyn helpu i atal, canfod a rheoli risgiau sy’n cael eu cario mewn bwyd, gan gyfrannu at ddiogelwch bwyd, iechyd pobl, ffyniant economaidd, cynhyrchiant amaethyddol, mynediad i'r farchnad, twristiaeth a datblygu cynaliadwy.  

Sefyllfaoedd sy’n gysylltiedig â bwyta bwyd lle mae perygl posibl i iechyd neu berygl wedi'i gadarnhau yw digwyddiadau diogelwch bwyd.  Gall digwyddiad bwyd ddigwydd, er enghraifft, oherwydd damweiniau, rheolaethau annigonol, twyll bwyd neu ddigwyddiadau naturiol. Er bod angen ymdrechion penodol gan lunwyr polisi, awdurdodau diogelwch bwyd, ffermwyr a gweithredwyr busnesau bwyd er mwyn bod yn barod i reoli digwyddiadau diogelwch bwyd, gall defnyddwyr hefyd chwarae rhan weithredol.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: World Food Safety Day 2024 (who.int) 

Mae Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am hyrwyddo Bwyd a Diod Cymru yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol: Bwyd a Diod Cymru - Tyfu gyda'n gilydd | Business Wales - Food and drink (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.