Mae 10 Rhagfyr 2023 yn nodi 75 mlynedd ers cyhoeddi un o’r addewidion byd-eang mwyaf arloesol erioed: sef y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol (Universal Declaration of Human Rights). Mae’r ddogfen bwysig hon yn ymgorffori’r hawliau diymwad sydd gan bawb fel bodau dynol – ni waeth beth fo’u hil, lliw, crefydd, rhyw, iaith, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, genedigaeth neu statws arall.
Cyhoeddwyd y Datganiad gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ym Mharis ar 10 Rhagfyr 1948, ac mae’n nodi, am y tro cyntaf, hawliau dynol sylfaenol i’w hamddiffyn ledled y byd.
Thema 2023 yw Urddas, Rhyddid a Chyfiawnder i Bawb.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddoleni ganlynol:
- Human Rights Day | United Nations
- Datganiad Ysgrifenedig: Diwrnod Hawliau Dynol (7 Rhagfyr 2023) | LLYW.CYMRU
Dysgwch am waith Llywodraeth Cymru i gefnogi a gwella hawliau dynol: Hawliau dynol | LLYW.CYMRU
Mae cadwyni cyflenwi moesegol yn parhau i fod yn ffocws i Lywodraeth Cymru, ac os hoffech gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Datganiad caethwasiaeth fodern Llywodraeth Cymru | Busnes Cymru