BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2024

World Mental Health Day logo - green ribbon

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref bob blwyddyn.

Thema Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2024, a bennir gan Ffederasiwn Iechyd Meddwl y Byd, yw 'Mae'n bryd blaenoriaethu iechyd meddwl yn y gweithle'.

Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd hefyd yn gyfle i siarad am iechyd meddwl yn gyffredinol, sut mae angen i ni ofalu amdano, a pha mor bwysig yw siarad am bethau a chael help os ydych chi'n cael trafferth ymdopi.

Am ragor o wybodaeth dewiswch y dolenni canlynol:

P'un ai ydych chi eisiau roi hwb i'ch lles eich hun neu geisio cyngor i gefnogi eich staff, mae gan Mind Cymru wybodaeth ac adnoddau i'ch helpu gan gynnwys:

Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau a gallant gael effaith ar ein hiechyd meddwl a'n lles. P'un ai ydych chi’n hunangyflogedig neu'n berchennog busnes, dylem gymryd camau i ofalu am ein hiechyd meddwl ni’n hunain a rhai ein gweithwyr. Am ragor o wybodaeth, dewiswch y dolenni canlynol: Lles ac Iechyd Meddwl | Busnes Cymru (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.