BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Masnach Deg y Byd 2024

World Fair Trade Day - Global Farming

Diwrnod Masnach Deg y Byd 2024Sefydliad Masnach Deg y Byd (WFTO) yw’r gymuned fyd-eang a’r dilysydd mentrau sy'n ymarfer Masnach Deg yn llawn.

Ar yr ail ddydd Sadwrn ym mis Mai bob blwyddyn, mae WFTO yn dathlu Diwrnod Masnach Deg y Byd i dynnu sylw at bŵer trawsnewidiol model busnes Masnach Deg a’i effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ac ar gymunedau. Mae thema’r ymgyrch yn newid bob blwyddyn i ganolbwyntio ar bwnc penodol sy’n bwysig i’r gymuned. Ar gyfer 2024, thema’r ymgyrch yw #ChwyldroBusnes #BusinessRevolution ac mae’n cael ei gynnal ar 11 Mai.

Mae'r dathliad blynyddol hwn yn llwyfan byd-eang i godi ymwybyddiaeth am egwyddorion ac arferion Masnach Deg, gan hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth am WFTO:

Mae bod yn fusnes cyfrifol yn golygu bod o fudd i’r bobl a’r lleoedd o’ch cwmpas yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar eich busnes. Mae’n ymwneud â’r ffordd yr ydych yn edrych ar ôl eich staff yn eich gweithle, eich perthynas gyda’ch cyflenwyr yn y farchnad, eich rhan ym mywyd y gymuned a’ch effaith ar yr amgylchedd. Ewch i dudalennau Busnes Cyfrifol Busnes Cymru i gael rhagor o wybodaeth: Busnes Cyfrifol | Busnes Cymru (llyw.cymru)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.