BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Mentora Cenedlaethol 2022

Cafodd y Diwrnod Mentora Cenedlaethol ei sefydlu er mwyn cydnabod manteision sylweddol mentora ar draws y DU ac mae’n cael ei gynnal ar 27 Hydref bob blwyddyn.

Mae mentora yn golygu bod un person yn rhoi cymorth i’r llall, a gall wneud gwahaniaeth sylweddol i wybodaeth, gwaith, a ffordd o feddwl y sawl sy’n cael ei fentora.

Mae pawb - unigolion, cwmnïau, ysgolion, cymunedau, prifysgolion a llywodraethau, yn cael eu hannog i rannu eu straeon am lwyddiant ac astudiaethau achos wrth fentora.

Mae pawb hefyd yn cael eu hannog i ddefnyddio’r diwrnod hwn i godi ymwybyddiaeth am fentora, am y cynlluniau mentora sydd ar gael, ac i hyrwyddo manteision mentora.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan ar wefan Diwrnod Mentora Cenedlaethol.

Am ragor o gefnogaeth ac arweiniad i'ch busnes, edrychwch ar ein hadran Mentora a Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-Lein (BOSS) – Cwrs Mentora Eraill Yn Effeithiol - Bydd y cwrs hwn yn eich helpu chi i ddeall sut mae modd defnyddio mentora i ddatblygu staff ar bob lefel, ac i adnabod yr ymddygiad a'r sgiliau allweddol mae mentor effeithiol yn eu harfer.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.