Bob blwyddyn, mae’r Cenhedloedd Unedig yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr dros Ddatblygu Economaidd a Chymdeithasol ar 5 Rhagfyr. Mae’r diwrnod, a elwir hefyd yn Ddiwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr, yn rhoi cyfle i wirfoddolwyr gydweithio ar brosiectau ac ymgyrchoedd sy’n hyrwyddo eu cyfraniadau i ddatblygu economaidd a chymdeithasol ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae rhaglen Gwirfoddolwyr y Cenhedloedd Unedig yn ymuno â dathliadau Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr ar y cyd â Gwirfoddolwyr y Cenhedloedd Unedig a’r holl wirfoddolwyr ledled y byd – gan bwysleisio pwysigrwydd datrysiadau i’n heriau cyffredin a gaiff eu harwain gan bobl.
Trwy gyfuno cymorth y Cenhedloedd Unedig â mandad llawr gwlad, mae’r diwrnod yn gyfle unigryw i bobl a sefydliadau sy’n ymwneud â gwirfoddolwyr weithio gydag asiantaethau llywodraethau, sefydliadau nid-er-elw, grwpiau cymunedol, y byd academaidd, a’r sector preifat – i ehangu cydblethu gwerthoedd tosturi ac undod.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: International Volunteer Day (unv.org)
Ydych chi’n pryderu y gallai darparu cyfleoedd gwirfoddoli yn eich busnes bach fod yn rhy gostus? Mae hyd yn oed ychydig oriau bob mis yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned – a gall fod manteision eraill i’r gweithle, hefyd. Gweithio gyda’ch cymuned leol | Drupal (gov.wales)