BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd 2023

Yn 2014, cyhoeddodd Cynulliad Cenedlaethol y Cenhedloedd Unedig mai 15 Gorffennaf fydd Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd, i ddathlu pwysigrwydd strategol arfogi pobl ifanc â’r sgiliau ar gyfer cyflogaeth, gwaith boddhaol ac entrepreneuriaeth.

Ers hynny, mae digwyddiadau Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd wedi cynnig cyfle unigryw am ddeialog rhwng pobl ifanc, sefydliadau addysg a hyfforddiant technegol a galwedigaethol, cwmnïau, sefydliadau cyflogwyr a gweithwyr, y rhai sy’n llunio polisïau a phartneriaid datblygu. Mae cyfranogwyr wedi amlygu arwyddocâd bythol gynyddol sgiliau wrth i’r byd ddechrau trawsnewid tuag at fodel datblygu cynaliadwy.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol World Youth Skills Day | United Nations

Os ydych chi dan 25 oed neu’n wynebu rhwystrau sy’n eich atal rhag cychwyn busnes, yn chwilio am gyfleoedd newydd neu os oes gennych syniad gwych am fusnes, gall Syniadau Mawr Cymru helpu.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.