BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd 2024

young female mechanic

Yn 2014, cyhoeddodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig mai 15 Gorffennaf fydd Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd, i ddathlu pwysigrwydd strategol arfogi pobl ifanc â’r sgiliau ar gyfer cyflogaeth, gwaith teilwng ac entrepreneuriaeth.

Ers hynny, mae digwyddiadau Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd wedi cynnig cyfle unigryw am ddeialog rhwng pobl ifanc, sefydliadau addysg a hyfforddiant technegol a galwedigaethol, cwmnïau, sefydliadau cyflogwyr a gweithwyr, llunwyr polisi a phartneriaid datblygu.

Thema Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd 2024 yw Sgiliau Ieuenctid ar gyfer Heddwch a Datblygu. Mae'n tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae pobl ifanc yn ei chwarae yn yr ymdrech i greu heddwch a datrys gwrthdaro.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: World Youth Skills Day (unesco.org)

Os ydych yn 25 oed neu'n iau ac yn wynebu rhwystrau sy'n eich atal rhag dechrau busnes, yn chwilio am gyfleoedd newydd, neu os oes gennych syniad busnes gwych yna gall Syniadau Mawr Cymru helpu. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.